Neidio i'r cynnwys

Astudiaethau Busnes

Cymhwyster

Tystysgrif Dechnegol / Tystysgrif Estynedig / Diploma Sylfaen OCR Lefel 3 Caergrawnt

Hyd

Un flwyddyn (Tystysgrif) neu un/dwy flynedd (Tystysgrif Estynedig)

Gofynion mynediad

I astudio ar Lefel 3, bydd angen 4 TGAU ar radd C (gradd 4) neu uwch arnoch, neu gymhwyster Busnes Lefel 2 neu gymhwyster cysylltiedig ar Lefel 2, ynghyd ag awydd i ddysgu mwy am fyd busnes a gweithio ynddo.

Beth mae'r cwrs yn ei gynnwys?

Mae'r dystysgrif yn gymhwyster Cyffredinol Cymhwysol – mae'r Dystysgrif yn gyfwerth â Safon UG ac mae'r Dystysgrif Estynedig yn gyfwerth â Safon Uwch.

Caiff y cwrs Lefel 3 ei asesu trwy unedau arholiad ac unedau a asesir yn fewnol. Mae ffocws ar waith damcaniaethol ac ymarferol i'ch galluogi i ddeall ystod o fusnesau a gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd busnes.

  • Yr Amgylchedd Busnes
  • Gweithio mewn Busnes
  • Penderfyniadau Busnes
  • Cwsmeriaid a Chyfathrebu
  • Marchnata ac Ymchwil Marchnad
  • Cysyniadau Cyfrifyddu
  • Egwyddorion Rheoli Prosiectau
  • Arferion Busnes Cyfrifol
  • Digwyddiadau Busnes

Bydd myfyrwyr yn dysgu am weithio mewn swyddogaeth fusnes sefydliad, megis cyllid, marchnata, gwerthu, cyfreithiol, cymorth TG, adnoddau dynol, gweinyddiaeth, logisteg, a gweithrediadau. Mae sgiliau busnes ymarferol megis cymryd rhan mewn cyfarfodydd proffesiynol, cyflwyno syniad, meithrin cydberthynas yn yr amgylchedd proffesiynol a sgiliau cyfathrebu proffesiynol gan gynnwys iaith y corff, hefyd yn elfennau pwysig iawn o'r cwrs.

Sut y byddwch chi'n dysgu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth, eglurhad, chwarae rôl, ymarferion gwaith unigol a grŵp, sesiynau holi ac ateb, ymchwil, siaradwyr gwadd ac ymweliadau.

Sut y cewch eich asesu

Caiff rhai unedau eu hasesu'n allanol gydag arholiad, ac mae unedau eraill yn cael eu hasesu'n fewnol trwy aseiniadau a gweithgareddau ymarferol. Bydd angen i bob myfyriwr wneud cyfuniad o asesiadau mewnol ac allanol.

Dysgu yn y gwaith

Mae wythnos bwrpasol o brofiad gwaith yn helpu'r myfyriwr i ddeall mwy am fusnes; gellir trefnu profiad gwaith pellach. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys dilyn newyddion busnes a materion gwaith.

I ble fydd yn fy arwain?

Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i Addysg Uwch i gwblhau graddau gydag elfen fusnes a/neu reoli. Mae cyrsiau gradd diweddar gan gyn-fyfyrwyr RNC yn cynnwys Busnes a'r Gyfraith, Busnes a Rheolaeth, Busnes a Tsieinëeg, Rheoli Digwyddiadau, Teithio a Thwristiaeth a Rheoli Busnes (AD).

Mae myfyrwyr eraill yn mynd yn uniongyrchol i gyflogaeth neu hunangyflogaeth. Mae llawer o feysydd cyflogaeth posibl, gyda llwybrau dilyniant cyn-fyfyrwyr yn aml yn cychwyn ar lefel hyfforddai graddedig ac yn symud ymlaen i rolau megis Swyddog Cyllid, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cynorthwyydd AD neu Reolwr AD, a Chyfarwyddwr eich cwmni eich hun.

Oes gennych chi ddiddordeb yn y cwrs hwn?

Y cam cyntaf yw sgwrs. Cysylltwch â ni a byddwn yn esbonio popeth i chi, gan gynnwys ymweliad, asesiad, a sut i wneud cais.

Gwneud cais am y cwrs hwn

Ddim yn hollol iawn i chi?

Pori pob cwrs