Cymhwyster
Diploma Lefel 2 VTCT (iTEC)
Hyd
Un i ddwy flynedd.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Er hynny, mae diddordeb gwirioneddol mewn therapïau cyflenwol yn hanfodol, ynghyd â pharodrwydd i weithio'n agos gydag eraill gan fod y cwrs yn cynnwys cymhwysiad ymarferol a rhyngweithio â chleientiaid. Mae sgiliau cyfathrebu da yn bwysig ac mae angen lefel rhesymol o ffitrwydd.
Beth mae'r cwrs yn ei gynnwys?
Prif nod y cymhwyster hwn yw eich galluogi i ennill y sgiliau ymarferol rhagarweiniol angenrheidiol er mwyn meithrin sylfaen gadarn ar gyfer hyfforddiant pellach ar Lefel 3, sy'n ofynnol ar gyfer ymarferwyr yn y diwydiant Therapïau Cyflenwol.
Byddwch yn astudio'r unedau canlynol:
- Uned 1: Darparu technegau therapi tylino sylfaenol ar gyfer therapïau cyflenwol
- Uned 2: Darparu technegau adweitheg sylfaenol
- Uned 3: Darparu technegau aromatherapi sylfaenol gan ddefnyddio olewau a rag-gymysgwyd
- Uned 4: Gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg ar gyfer therapïau cyflenwol
- Uned 5: Cyflwyniad i egwyddorion ac ymarfer therapïau cyflenwol
- Uned 6: Cyflwyniad i wasanaethau clinig ac ymwybyddiaeth fusnes ar gyfer therapïau cyflenwol
- Uned 7: Cyflwyniad i fwyta'n iach a lles ar gyfer cleient therapi cyflenwol
Bydd pob uned yn cael ei hasesu drwy gwblhau a chyflwyno portffolio o dystiolaeth a fydd yn cynnwys aseiniadau/tasgau ysgrifenedig ac ymarferol.
Sut y byddwch chi'n dysgu
Addysgir therapïau mewn grwpiau bach sy'n hyrwyddo gweithio'n annibynnol. Caiff clinigau mewnol ac allanol i gyd eu goruchwylio. Ceir cymysgedd o waith damcaniaethol ac ymarferol a fydd yn cynnwys rhyngweithio ag amrywiaeth o wahanol gleientiaid.
I ble fydd yn fy arwain?
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen â'ch astudiaethau i gymwysterau Lefel 3 VTCT (iTEC) neu gymwysterau cyfatebol eraill, er enghraifft, y Diploma Lefel 3 mewn Tylino a Therapïau Cyflenwol (yn ogystal â therapïau eraill fel Tylino Chwaraeon, Adweitheg, ac Aromatherapi).
Oes gennych chi ddiddordeb yn y cwrs hwn?
Y cam cyntaf yw sgwrs. Cysylltwch â ni a byddwn yn esbonio popeth i chi, gan gynnwys ymweliad, asesiad, a sut i wneud cais.